Amserlenni trenau Cymru a’r DU
Edrychwch ar ein hamserlenni trenau cyn i chi deithio er mwyn osgoi unrhyw beth annisgwyl.
Weithiau, bydd angen i ni gyflwyno amserlenni newydd neu dros dro pan fo gwaith gwella hanfodol ar y gweilch, neu os oes unrhyw broblemau’n codi ar y rhwydwaith. Gwiriwch a oes unrhyw newidiadau i amserau’ch trên a chysylltiadau â gwasanaethau gweithredu trenau eraill cyn ichi deithio.
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein ap trenau sy’n darparu gwybodaeth yn fyw ynglŷn ag amserau trên a’ch taith ddiweddaraf.
-
Newidiadau i’r amserlen Dydd Sul 02 Mehefin 2024
-
O ddydd Sul 02 Mehefin, mae ein hamserlenni trenau yn newid.
-
Bydd llyfrynnau amserlen Mehefin 2024 yn cael eu postio ar-lein o 02 Mehefin 2024.
-
Gwiriwch eich cynlluniau cyn teithio am unrhyw newidiadau i amseroedd trenau, newidiadau i blatfformau a chysylltiadau â gwasanaethau cwmnïau trenau eraill.
-
Dyma drosolwg o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol ar draws ein rhwydwaith:
-
-
Gogledd
-
Lein Wrecsam - Bidston
-
Bydd y gwasanaeth 06:26 newydd Bidston - Wrecsam Canolog (dydd Llun i ddydd Sadwrn) yn darparu gwasanaeth bore cynharach.
-
Arfordir Gogledd Cymru
-
Bydd gwasanaeth boreau Sul yr haf yn dychwelyd i’r drefn a fodolai cyn Covid rhwng 02 Mehefin - 08 Medi.
-
06:21 Caer i Gaergybi
-
07:19 Caergybi i Crewe
-
-
-
Canolbarth
-
Amwythig - Crewe
-
Bydd y gwasanaeth 21:55 Caerdydd - Crewe (dydd Gwener yn unig) nawr yn terfynu yn Amwythig. Gyda gwasanaeth 00:17 ychwanegol Amwythig - Crewe.
-
Lein y Cambrian
-
Bydd gwasanaeth boreau Sul yr haf yn dychwelyd i’r drefn a fodolai cyn Covid rhwng 02 Mehefin - 08 Medi.
-
08:31 Amwythig i Fachynlleth
-
-
-
De
-
Caerdydd - Pencoed, Pontyclun a Llanharan
-
22:15/22:18 Ni fydd gwasanaeth Caerdydd - Caerfyrddin (dydd Llun i ddydd Gwener) bellach yn galw ym Mhencoed, Pontyclun a Llanharan.
-
22:37 Bydd gwasanaeth Caerdydd Canolog i Faesteg (dydd Llun i ddydd Gwener) yn galw yn y gorsafoedd hyn yn lle.
-
Caerdydd - Caerloyw - Cheltenham
-
Bydd gwasanaethau ychwanegol yn cael eu hadio i'w wneud yn wasanaeth sy’n rhedeg bob awr yn ystod y dydd (dydd Llun i ddydd Sadwrn).
-
Caerdydd - Amwythig
-
Bydd gwasanaeth 07:17 Caerdydd - Caergybi (dydd Llun i ddydd Gwener) nawr yn galw ym mhob gorsaf rhwng Caerdydd ac Amwythig, sy’n golygu y bydd gwasanaeth ychwanegol ar gyfer Leominster, Craven Arms a Church Stretton.
-
-
De-orllewin Cymru
-
Bydd gwasanaeth boreau Sul yr haf yn dychwelyd i’r drefn a fodolai cyn Covid rhwng 02 Mehefin - 08 Medi.
-
08:14 Abertawe i Benfro
-
08:20 Caerfyrddin i Aberdaugleddau
-
09:30 Aberdaugleddau i Gaerfyrddin
-
08:36 Caerfyrddin i Abertawe
-
-
-
Gwasanaeth Caerdydd a’r Cymoedd
-
Bydd amseroedd a llwybrau trenau yn newid wrth i gam nesaf Metro De Cymru gael ei gyflawni.
-
Llyfrynnau Amserlenni 2023/2024
-
Mehefin 2024
- Cambrian
- Caer - Birmingham
- Abertawe - Amwythig | Lein Calon Cymru
- Caerdydd - Manceinion
Ar y ffordd - nodwch ein bod yn dal i fod wrthi'n cwblhau’r amserlen hon oherwydd newidiadau munud olaf. - Maesteg - Cheltenham
Ar y ffordd - nodwch ein bod yn dal i fod wrthi'n cwblhau’r amserlen hon oherwydd newidiadau munud olaf. - Gorllewin Cymru - Caerdydd
Ar y ffordd - nodwch ein bod yn dal i fod wrthi'n cwblhau’r amserlen hon oherwydd newidiadau munud olaf. - Caergybi - Manceinion
- Llandudno a Chyffordd Llandudno - Blaenau Ffestiniog
- Wrecsam - Bidston
Ar y ffordd - nodwch ein bod yn dal i fod wrthi'n cwblhau’r amserlen hon oherwydd newidiadau munud olaf. - Caergybi - Caerdydd
Ar y ffordd - nodwch ein bod yn dal i fod wrthi'n cwblhau’r amserlen hon oherwydd newidiadau munud olaf. - Cwm Rhymni - Caerdydd Canolog
- Treherbert/Aberdâr/Merthyr Tudful - Caerdydd Canolog
- Caerdydd i Benarth, Ynys y Barri a Bro Morgannwg
- Coryton - Caerdydd Canolog
- Tref Glynebwy - Casnewydd/Caerdydd Canolog
- Caerdydd Heol y Frenhines - Bae Cardydd
-
Rhagfyr 2023
- Cambrian
- Birmingham - Amwythig - Caer
- Abertawe - Amwythig | Lein Calon Cymru
- Caerdydd - Manceinion
- Maesteg - Cheltenham
- Gorllewin Cymru - Caerdydd
- Caergybi - Manceinion
- Blaenau Ffestiniog - Llandudno
- Wrecsam - Bidston
- Caergybi - Caerdydd
- Rhymni - Caerdydd
- Treherbert/Aberdâr/Merthyr Tudful - Caerdydd
- Bro Morgannwg - Caerdydd
- Coryton - Radur
- Glynebwy - Caerdydd Canolog - Casnewydd
- Caerdydd Heol y Frenhines - Bae Caerdydd
-
Newidiadau i amserlenni’r Metro
Gall amserlenni newid hefyd oherwydd gwaith o drawsnewid y metro ar draws ein rhwydwaith. Ewch i’n tudalen am y gwaith o drawsnewid y metro i gael rhagor o wybodaeth.
Newidiadau i’r amserlen yn sgil gweithredu diwydiannol
Gall streiciau a gweithredu diwydiannol effeithio ar amserlenni trenau. I gael y manylion diweddaraf am streiciau trafnidiaeth, ewch i’n tudalen gweithredu diwydiannol.
Ad-daliadau yn sgil newidiadau i amserlenni
Os ydych chi eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau, byddwch chi’n gallu defnyddio eich tocynnau ar wasanaethau trên eraill TrC. Fel arall, gallwch chi wneud cais am ad-daliad drwy fynd i’n tudalen ad-daliadau.
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i amseroedd trenau, addasiadau a theithiau sydd wedi cael eu canslo gan ddefnyddio ein cynllunydd teithiau.
-
Oeddech chi’n gwybod?Sgwrs | Panel CwsmeriaidRydyn i'n gweddnewid trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hon yn dipyn o gamp ac mae angen eich help chi arnom.Ymgeisio i ymuno â Sgwrs